Magister militum

Magister militum (Lladin yn golygu "Meistr y Milwyr") oedd y swydd filwrol uchaf yn yr Ymerodraeth Rufeinig ddiweddar, yn dyddio o deyrnasiad Cystennin Fawr.

Yn ffurfiol, yr ymerawdwr oedd pennaeth y fyddin, ond y Magister Militum oedd y pennaeth yn ymarferol, ac yn aml ef oedd gwir feistr yr ymerodraeth, er enghraifft yn achos Stilicho, Ricimer ac eraill.

Yn ddiweddarach, daeth y teitl Magister Militum i gael ei ddefnyddio yn lleol hefyd, er enghraifft y Magister militum per Thracias ("Meistr y Milwyr yn Thrace").


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search